P-04-456: Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:

 

i. I roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn dioddefwyr dementia yng Nghymru syn gwneud cais am Arian Gofal Parhaus y GIG, drwy ganiatáu ir categori gwybyddiaeth o angen (a elwir yn barth) godi i lefel Difrifolyn y fersiwn Gymraeg or Offeryn Gwneud Penderfyniadau. Byddai hyn yn ei gwneud yn gydnaws âr fersiwn Saesneg; a

 

ii. Bod Byrddau Iechyd Lleol uniongyrchol yn gweithredur Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Arian Gofal Parhaus y GIG, yn gywir, o ran cymhwysedd cleifion a heb ystyried cyfyngiadau cyllidebol.

 

Prif ddeisebydd: Helen Jones

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  19 Chwefror 2013

Nifer y llofnodion: 1413